Mae angen eich help arnom – Adborth cymunedol!

Ar Hydref 11eg, cymerodd pobl ifanc o POINT, Abergwaun ran mewn gweithgareddau ymwybyddiaeth iechyd meddwl fel rhan o ddiwrnod MHA.
Cafodd y gweithwyr ieuenctid drafodaethau gyda phobl ifanc ynghylch problemau iechyd meddwl y maent yn eu hwynebu fel pobl ifanc a'r hyn y gallant ei wneud os ydynt yn teimlo'n bryderus. Trafodasant ble y gallant fynd am gefnogaeth a phwysigrwydd hunanofal. Roedd y bobl ifanc yn agored ac yn onest iawn am eu trafferthion personol eu hunain gydag iechyd emosiynol / meddwl.

Cynhaliwyd gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar yn ystod y sesiwn galw heibio, fel lliwio a chwiliadau am eiriau – i gyd ar thema iechyd meddwl.