Mae angen eich help arnom – Adborth cymunedol!
Dydd Iau 8fed Awst, 2019
Dewch draw i'n hadeilad Printworks i ddweud eich dweud am yr hyn sydd ei angen yn y gymuned, a sut y gallem ni yn POINT Across Communities helpu.
Edrychwch ar ein tudalen Facebook POINT Across Communities i weld ychydig mwy am y gwaith rydyn ni'n ei wneud yn y gymuned ar hyn o bryd.
Aelodau’r gymuned o unrhyw oedran, gweithwyr asiantaeth, sefydliadau lleol ac wrth gwrs pobl ifanc: croeso i bawb!
Paned a chacennau yn barod! Dim ond 10 munud fydd hyn yn ei gymryd, neu fwy os ydych chi eisiau!



