Cofio Anwyliaid, Gweithdy Crefftau Nadolig
Mae POINT yn cynnig cyfle i bobl ifanc nodi colli rhywun neu rywbeth pwysig iddyn nhw.
Boed person ifanc yn galaru anwylyd, efallai aelod o'r teulu neu anifail anwes; neu'n rhagweld colled neu newid o ryw fath, mae croeso i bawb fynegi hyn trwy ein gweithdy crefftau.
Cynhelir y gweithdy ddydd Iau y 12fed o Ragfyr 2019 a bydd ar agor fel gweithgaredd galw heibio yn ein hadeilad Printworks, rhwng 3pm – 5.30pm. Bydd gweithwyr ieuenctid a mentoriaid yn cefnogi'r gweithdy mewn lleoliad diogel, cynnes a chroesawgar.
Mae croeso i unrhyw berson ifanc rhwng 11 a 25 oed, a dim ond cofrestru cyflym gyda ni fydd angen iddo wneud.
Am ragor o wybodaeth am y sesiwn gyda chefnogaeth staff a gwirfoddolwyr; cysylltwch â Lynda neu Hannah ar 01348 871887/875467.
